Rôl ymgysylltu
Mae ein hymagwedd at ymgynghori a datblygu prosiectau wedi’i seilio ar ymgysylltu effeithiol. Ein nod yw ymgysylltu ag unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd â buddiant yn y prosiect.
Nid ydym yn ymgynghori mwyach, fodd bynnag rydym yn cydnabod ei bod dal i fod yn hanfodol i ymgysylltu â rhanddeiliaid newydd a rhanddeiliaid a nodwyd eisoes. Roedd ymgynghori ac ymgysylltu cynnar a helaeth yn ddylanwad sylweddol ar y cynllun y gwnaethpwyd cais amdano ac y rhoddwyd caniatâd iddo. Ein hymagwedd oedd hwyluso cynnwys cymunedau lleol, awdurdodau lleol ac ymgynghoreion statudol yn gynnar, a sicrhau bod pawb yn gallu dylanwadu ar y ffordd y cafodd y prosiect ei ddatblygu a’i integreiddio yn y gymuned.
Mae ymgysylltu parhaus cyn ac yn ystod y cyfnod adeiladu yn bwysig er mwyn sicrhau bod rhanddeiliaid yn cael gwybod am gamau’r prosiect ac yn cael cyfle i ofyn cwestiynau.
Ymgysylltu ynghylch Morlyn Llanw Bae Abertawe hyd yma
Cynhaliwyd mwy na 400 o gyfarfodydd yn y cyfnod cyn y cais gyda mwy na 250 o unigolion a sefydliadau, gan gynnwys ym meysydd celf a diwylliant, busnes, addysg, pysgod, cynghorau cymuned, cynghorwyr ac awdurdodau lleol, grwpiau amgylcheddol a chadwraethol, unigolion/preswylwyr, cynrychiolwyr gwleidyddol a rhanddeiliaid ym maes chwaraeon a hamdden.
Yn ystod y cyfnod ymgynghori anstatudol cynaliasom 4 digwyddiad cyhoeddus y daeth 431 o unigolion iddynt. Yn ystod yr ymgynghoriad statudol cynaliasom 20 o ddigwyddiadau cyhoeddus y daeth 1,010 o unigolion iddynt ac anfonasom y Datganiad Ymgynghoriad Cymunedol, oedd yn cynnwys holiadur ymgynghori, i 196,000 o gyfeiriadau preswyl a masnachol. Datgelodd canlyniadau’r holiadur ymgynghori fod 86% o’r cyhoedd yn cefnogi’r prosiect – ffigur trawiadol.
Mae Tîm Ymgysylltu Bae Abertawe yn dal i ymgysylltu a chyfathrebu â’r holl randdeiliaid ar draws Bae Abertawe. Mae cyfathrebu’n digwydd mewn nifer o ffyrdd gwahanol, o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a chyflwyniadau, i fynychu digwyddiadau a chylchlythyr y prosiect sydd â mwy na 3,000 o danysgrifwyr ar hyn o bryd.
Yn ystod 2015, rhoddwyd 63 o gyflwyniadau i roi’r newyddion diweddaraf am y prosiect, a chynhaliwyd 192 o gyfarfodydd ychwanegol â rhanddeiliaid oedd yn cynnwys diweddariad ar statws y prosiect. Ymgysylltir â’r gymuned yn gyffredinol ledled Bae Abertawe trwy fynychu digwyddiadau. Cymerodd ein tîm ymgysylltu ran yn ras rafftiau y Mwmbwls a phedwar digwyddiad cymunedol ym Mae Abertawe yn 2015 lle buom yn trafod y prosiect gyda 1,213 o randdeiliaid. Cynhaliwyd cymorthfeydd cymunedol yn chwarter olaf 2015 mewn chwe lleoliad o gwmpas Bae Abertawe lle cyfarfuom â 106 o aelodau o’r gymuned.
Yn ogystal â mynychu digwyddiadau cymunedol cyffredinol aethom i 45 o ddigwyddiadau eraill lle buom yn cyfathrebu ymhellach â’n rhanddeiliaid.
Credwn fod addysg ac estyn allan yn hanfodol i’r prosiect hwn a’i etifeddiaeth a’n huchelgais yw gweithio ym mhob un o’r 176 o ysgolion, colegau a phrifysgolion ym Mae Abertawe erbyn diwedd y gwaith adeiladu, er mwyn ysbrydoli pobl ifanc a meithrin sgiliau a gwybodaeth ynghylch pwnc ynni’r llanw. Cynhaliwyd 18 gweithdy addysg yn ystod 2015 mewn ysgolion cynradd ac uwchradd. Ewch i’n tudalen Addysg i gael gwybod mwy.
Cefnogwyr gweithredol y prosiect
Mae preswylwyr lleol wedi sefydlu pedwar Grŵp Cefnogwyr Gweithredol annibynnol, ac ynddynt 959 o aelodau o ranbarth Bae Abertawe sy’n awyddus i gefnogi a hyrwyddo’r cynllun. Rydym yn cadw mewn cysylltiad rheolaidd â Chadeirydd pob grŵp fel y gallant ateb cwestiynau y maent yn eu cael oddi wrth yr aelodau. Mae’r Cadeiryddion yn rhoi o’u hamser i ymuno â ni mewn digwyddiadau cymunedol ac yn anfon eu cylchlythyrau eu hunain at yr aelodau i roi’r newyddion diweddaraf iddynt am gynnydd y prosiect.
Cewch wybod sut y gallwch ymaelodi â Grŵp Cefnogwyr Gweithredol yma.