Astudiaethau cwmpasu a dichonoldeb y prosiect.
Datblygu dyluniad, ac ymgynghori cynnar â rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat.
Gwaith peirianneg a dylunio’n parhau.
‘Ymgynghoriad ar opsiynau’ – ymgynghoriad anffurfiol â rhanddeiliaid cyhoeddus a phreifat, gan edrych ar wahanol opsiynau ar gyfer y cynllun.
Cyflwyno’r Adroddiad Cwmpasu ar yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol i’r Arolygiaeth Gynllunio a dechrau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
‘Ymgynghoriad ar yr opsiwn a ffefrir’ – ymgynghoriad statudol ar y cynllun a ffefrir gyda’r holl randdeiliaid cyhoeddus a phreifat (o dan Ddeddf Cynllunio 2008).
Cyflwyno cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ynni a Newid Hinsawdd benderfynu arno a chyflwyno cais am Drwydded Forol i Cyfoeth Naturiol Cymru iddo benderfynu arno ar ran Llywodraeth Cymru.
Enwi Prudential fel y buddsoddwr conglfaen.
Gwneud Gorchymyn Caniatâd Datblygu ym mis Mehefin.
Enwi InfraRed Capital Partners fel ail fuddsoddwr ecwiti.
Penodi General Electric ac Andritz Hydro yn Gynigwyr a Ffefrir ar gyfer y Tyrbinau.
Enwi Macquarie Capital fel Cynghorydd Ariannol Dyled Mandadedig.
Penodi Laing O’Rourke yn Gynigydd a Ffefrir ar gyfer Amgaeadau’r Tyrbinau
Penodi Alun Griffiths Ltd yn Gynigydd a Ffefrir ar gyfer y Gwaith Ategol.
Cwblhau Adolygiad annibynnol Hendry o forlynnoedd llanw.
Llwybr i gyflawni’r trefniadau ariannol.
Dechrau’r gwaith adeiladu ar y safle.