Astudiaethau cwmpasu a dichonoldeb y prosiect, gan gynnwys peirianneg ac optimeiddio’r dyluniad.
Gwaith ymgysylltu cynnar â rheoleiddwyr, cymunedau a rhanddeiliaid eraill.
Cyflwyno’r Adroddiad Cwmpasu ar yr Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol i’r Arolygiaeth Gynllunio a dechrau’r Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol.
Ymgynghoriad anstatudol â rheoleiddwyr, cymunedau a rhanddeiliaid eraill.
‘Ymgynghoriad ar opsiynau’ – yn edrych ar y gwahanol opsiynau ar gyfer y cynllun gan gynnwys llwybrau cysylltu â’r grid, mynediad, lleoliadau safleoedd adeiladu a dulliau Asesiadau o’r Effaith Amgylcheddol.
‘Ymgynghoriad ar yr opsiwn a ffefrir’ – ymgynghoriad statudol ar y cynllun a ffefrir gyda rheoleiddwyr, cymunedau a rhanddeiliaid eraill (o leiaf 28 diwrnod, o dan Ddeddf Cynllunio 2008).
Ymgynghoriad ar y Datganiad Amgylcheddol drafft gyda rheoleiddwyr a rhanddeiliaid allweddol.
Cyflwyno cais am Orchymyn Caniatâd Datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol benderfynu arno a chyflwyno cais am Drwydded Forol i Cyfoeth Naturiol Cymru iddo benderfynu arno ar ran Llywodraeth Cymru.