Rôl ymgysylltu
Mae ein dull o ymgynghori a datblygu’r prosiect wedi’i seilio ar ymgysylltu effeithiol. Ein nod yw ymgysylltu ag unrhyw sefydliad neu unigolyn sydd â buddiant yn y prosiect.
Ein nod yw cydymffurfio â rheoliadau cynllunio a rhagori arnynt, gydag ymrwymiad i:
- Ymgysylltu cynnar, parhaus a helaeth.
- Cynnwys rhanddeiliaid a chymunedau lleol yn y gwaith o ddatblygu’r prosiect ac mewn deialog am ein dyfodol o ran ynni, yr effaith amgylcheddol, dyluniadau a’r gymuned.
- Defnyddio dulliau amrywiol ar gyfer cymunedau amrywiol.
- Bod yn ymatebol i bryderon rhanddeiliaid yn ogystal ag anghenion a dyheadau lleol er mwyn creu prosiect trawsnewidiol.
Rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ar bob lefel, o unigolion, clybiau, sefydliadau, cymdeithasau a rhwydweithiau hyd at gyrff llywodraethu a statudol gan gynnwys rheoleiddwyr. Mae ein gwaith ymgysylltu’n canolbwyntio ar randdeiliaid sy’n cynrychioli nifer o wahanol fuddiannau yn ymwneud â’n gweithgareddau.
Hawlfraint y ddelwedd: Huw John, Caerdydd. Cyfarfod Morlyn Llanw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Gwaith ymgysylltu am Forlyn Llanw Caerdydd hyd yma…
Hyd yma rydym wedi cynnal 628 o gyfarfodydd gyda rhanddeiliaid ac wedi cynnal 34 briffiad gyda grwpiau cymunedol.
Rydym wedi cynnal stondinau ac arddangosiadau mewn 16 o ddigwyddiadau cyhoeddus a chymunedol, wedi mynychu neu roi cyflwyniadau mewn 47 o gynadleddau/digwyddiadau, ac wedi rhoi anerchiadau i amrywiaeth o rwydweithiau.
Rydym hefyd wedi cynnal dau ddigwyddiad i randdeiliaid, tri gweithdy gyda rhanddeiliaid allweddol fel Awdurdodau Harbwr Statudol, 17 briffiad i Gynghorau Cymuned a chwe briffiad i Aelodau o Awdurdodau Lleol.
Rydym wedi ymweld ag wyth o ysgolion, colegau a phrifysgolion lleol lle buom yn cynnal dadleuon ac yn rhedeg gweithgareddau rhyngweithiol a gweithdai i ymchwilio i rai o’r cwestiynau mawr ac i edrych ar y cyfleoedd gyrfa y gall Morlynnoedd Llanw eu creu. Gweler ein hastudiaeth achos isod i gael mwy o fanylion.
Hawlfraint y ddelwedd: Huw John, Caerdydd. Cyfarfod Morlyn Llanw yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd
Sut mae hyn yn ffitio i’r broses cynllunio a datblygu?
Rydym yn cofnodi ac yn adrodd ar yr holl waith ymgysylltu ac ymgynghori a wnawn yn ystod cyfnod datblygu’r prosiect hwn.
Dros y ddwy flynedd nesaf byddwn yn ffurfioli ein gwaith ymgysylltu trwy gynnal tri chylch ymgynghori, lle byddwn yn gofyn am farn cymunedau a rhanddeiliaid lleol. I gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd i ddweud eich dweud am y prosiect hwn a dyfodol ynni, ewch i’n tudalen Dweud Eich Dweud a gaiff ei diweddaru’n barhaus wrth i’r prosiect fynd rhagddo.