Harneisio’r amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd

Mae Morlyn Llanw Caerdydd yn cael ei ddatblygu fel y morlyn maint llawn cyntaf yn ein rhaglen. Nod y prosiect, a saif ar Aber Afon Hafren, yw harneisio’r amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd.

Gyda chapasiti gosodedig posibl o ryw 3GW ac allbwn pŵer blynyddol posibl o ryw 5.5TWh gallai’r prosiect yn hawdd ateb galw blynyddol holl gartrefi Cymru am drydan.

Dechreuodd y gwaith o ddatblygu Morlyn Llanw Caerdydd yn 2013. Mae’r prosiect yn awr ar 12fed iteriad ei ddyluniad a chyflwynwyd y dogfennau cynllunio ffurfiol cyntaf ym mis Mawrth 2015, sef yr Adroddiad Cwmpasu. Disgwylir cyflwyno cais ffurfiol am Orchymyn Caniatâd Datblygu yn 2018, yn dilyn ymgynghoriadau helaeth â’r gymuned leol a rhanddeiliaid eraill.

Gyda’r potensial i fuddsoddi oddeutu £8 biliwn o gyfalaf preifat rhwng dinasoedd Caerdydd a Chasnewydd, gallai’r morlyn gynnig cyfle economaidd o faint y gemau Olympaidd i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd, dinas-ranbarth amrywiol o 1.5 miliwn o bobl sy’n cynnwys 10 awdurdod lleol. Mae amcangyfrifon annibynnol cynnar yn awgrymu y byddai angen mwy na 3,000 o weithwyr adeiladu ar y prosiect, gyda’r potensial i greu a chynnal mwy nag 8,000 o swyddi gweithgynhyrchu yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig yng nghadwyn gyflenwi’r prosiect.

Amcangyfrifir, ar sail ein gwaith ym Mae Abertawe, y gallai Morlyn Llanw Caerdydd gyfrannu hyd at £2 biliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros i economi Cymru yn ystod y cyfnod adeiladu, gyda chyfraniad posibl i Gymru o fwy na £500 miliwn mewn Gwerth Ychwanegol Gros ym mhob un o’r 120 o flynyddoedd y bydd y prosiect yn weithredol.

Byddai morglawdd y prosiect yn cysylltu â’r blaendraeth, ar ei ben gorllewinol tua 2km o’r fynedfa i Fae Caerdydd, ac ar ei ben dwyreiniol tua 2km o aber afon Wysg. Mae’r man pellaf allan i’r môr tua 8km o’r blaendraeth i ganol Aber Afon Hafren a byddai’r clawdd yn ymestyn mwy na 18km, tua dwywaith mor hir â chlawdd Morlyn Llanw Bae Abertawe. Trwy amgáu tua 70kmo’r Aber, gallai’r prosiect basio mwy na 800 miliwn mo ddŵr trwy ei dyrbinau ym mhob cylch llanw a thrai, mwy nag 11 gwaith y cyfaint dŵr sydd ar gael i’r prosiect braenaru ym Mae Abertawe.

Gall diwydiant morlynnoedd llanw’r Deyrnas Unedig fod yn sicr o’i allu i leihau costau ar unwaith trwy symud i safleoedd mwy gydag amrediad llanw tebyg i Fae Abertawe neu fwy nag ef. Nid yw’n dibynnu ar ragdybiaeth y bydd gwelliannau technolegol dros amser, er ei bod yn glir y bydd y rhain yn helpu i ostwng y costau hyd yn oed yn fwy.

Mae arbedion maint yn berthnasol: mae morlynnoedd mawr yn gwneud pŵer rhatach na morlynnoedd bach. Gallai Morlyn Llanw Caerdydd gynhyrchu’r trydan rhataf o’r holl orsafoedd pŵer newydd yn y Deyrnas Unedig. I weld cymhariaeth â ffyrdd eraill o gynhyrchu ynni gweler ein Tabl Cynghrair.

Byddai prosiect o’r maint hwn hefyd yn rhyddhau buddsoddiad hanfodol yng nghadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu’r Deyrnas Unedig, gan adeiladu ar y sylfeini fydd wedi’u gosod gan y prosiect braenaru ym Mae Abertawe i sicrhau lle’r Deyrnas Unedig wrth wraidd diwydiant byd-eang newydd gyda photensial sylweddol o ran allforion.

Tidal Lagoon Plc

E: Info@tidallagoonpower.com

T: +44 (0)1452 303892

A: Pillar & Lucy House
Merchants Road
The Docks
Gloucester
GL2 5RG
Tidal Lagoon (Swansea Bay) Plc

E: Swansea@tidallagoonpower.com

T: +44 (0)1792 274006

A: Suite 6
J Shed
Kings Road
Swansea
SA1 8PL
© Tidal Lagoon Plc and Tidal Lagoon (Swansea Bay) Plc. | Designed and Developed by Spindogs
http://www.tidallagoonpower.cymru