Y felin lanw gyntaf yn y Deyrnas Unedig, Mynachlog Nendrum yng Ngogledd Iwerddon, yn manteisio ar bŵer y llanw i falu grawn.
Melin lanw Woodbridge yn agor, ac yn dal i weithio am fwy nag 800 o flynyddoedd; erbyn y 1950au hi oedd yr olaf o 200 o felinau llanw yn y wlad; caeodd o’r diwedd yn 1957.
Y cynnig cyntaf a gofnodwyd am orsaf bŵer lanw yn Aber Afon Hafren.
Agor Gorsaf Bŵer Lanw Rance yn Llydaw, y morglawdd llanw cyntaf yn y byd, yn defnyddio tyrbinau bwlb deugyfeiriol 10MW mewn dŵr hallt.
Tîm Tidal Lagoon Power (TLP) yn dechrau ei waith ar gyfres o orsafoedd pŵer i’r Deyrnas Unedig.
Cyflwyno’r ddogfen gynllunio ffurfiol gyntaf am Forlyn Llanw Bae Abertawe, prosiect braenaru ar gyfer y gyfres, i’r Arolygiaeth Gynllunio.
Sôn am Forlyn Llanw Bae Abertawe ar Fap Ffyrdd Ynni Adnewyddadwy’r Deyrnas Unedig.
Sôn am Forlyn Llanw Bae Abertawe yng Nghynllun Seilwaith Cenedlaethol y Deyrnas Unedig.
Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi dechrau trafodaethau ar Gontract Gwahaniaeth ar gyfer Tidal Lagoon Swansea Bay (TLSB) yn ei datganiad Cyllideb.
Sôn am TLSB ym Maniffesto’r Blaid Geidwadol ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol.
TLP yn datgelu cynlluniau ar gyfer cyfres o chwe gorsaf bŵer morlynnoedd llanw ac yn dechrau gwaith i gwmpasu safleoedd mewn dyfroedd rhyngwladol.
Cyflwyno’r ddogfen gynllunio ffurfiol gychwynnol ar gyfer Morlyn Llanw Caerdydd, y prosiect maint llawn cyntaf yn y gyfres, i’r Arolygiaeth Gynllunio.
Rhoi Gorchymyn Caniatâd Datblygu i’r orsaf bŵer morlyn llanw gyntaf yn y byd ym Mae Abertawe.
Sôn am forlynnoedd llanw yn y Cynllun Cyflawni Seilwaith Cenedlaethol 2016-2021.
Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn comisiynu adolygiad annibynnol chwe-mis o ynni morlynnoedd llanw.